Mae buddsoddi yn y sector ddigidol a chreadigol wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf ac yn cynnig cyfleoedd cyffrous ym mhopeth o ffilm a theledu i ddylunio a datblygu gwefannau. Os ydych chi’n berson creadigol yna gallai gyrfa yn y diwydiant hwn fod yn addas i chi. Mae dros 3,000 o fobl yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd yn Abertawe.
Nodweddion Allweddol:
- Cyfleoedd i fod yn hunangyflogedig neu’n llawrydd
- Yn talu’n dda
- Arloesol a chyffrous
- Hyblyg
Sgiliau angenrheidiol:
- Datrys Problemau
- Sgiliau TG uwch neu arbenigol
- Sgiliau gwrando da
- Sgiliau arwain
- Creadigrwydd
- Sgiliau cyfathrebu da
Y cyflog am swydd yn y sector yn Abertawe yw £30,253, ar gyfartaledd, ond fe allech chi ennill lawer mwy yn dibynnu ar ba swydd sydd gennych ddiddordeb ynddi.
Dyma enghreifftiau o rai o’r swyddi y gallech ymgeisio amdanynt: