Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o’r colegau mwyaf yng Nghymru ac mae ganddo enw da iawn am ddysgu ac addysgu o safon uchel.

Croeso

Os ydym wedi dysgu unrhyw beth o heriau 2020, pwysigrwydd addysg yw hwnnw. Dewis beth rydych am ei astudio ar ôl gadael yr ysgol yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch yn ei wneud, a gwyddom fod darpar fyfyrwyr a’u rhieni yn seilio’r penderfyniadau hyn ar dri ffactor ac mae pob un o’r rhain yn gryfderau cydnabyddedig yn y Coleg hwn:

  1. Dewis ac amrywiaeth y cyrsiau sydd ar gael
  2. Ansawdd yr addysgu a chanlyniadau ein myfyrwyr
  3. Y cyfleoedd ar gyfer dilyniant ar ôl cwblhau’r cwrs.

Gall astudio mewn coleg mawr gynnig llawer o fanteision i bob un o’n myfyrwyr o ran dewis. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe mae’r rhain yn cynnwys dros 40 o bynciau Safon Uwch a 40 o bynciau galwedigaethol ar amryw o lefelau. Ond nid yw’r maint mwy hwn yn golygu ein bod yn cyfaddawdu ar ansawdd ein cyrsiau na’r profiadau y mae ein myfyrwyr yn eu mwynhau, ac mae maint dosbarthiadau yn parhau i gydfynd â’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae’r maint mwy hefyd yn golygu bod mwy o gyfleoedd i symud ymlaen p’un ai i brifysgol flaenllaw, prentisiaeth, gyrfa neu hyd yn oed symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg – ac wrth wneud hynny gallwch ddilyn y miloedd o fyfyrwyr sydd wedi dilyn yr holl lwybrau hyn o’ch blaen.

Gallwch fod yn sicr am ansawdd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae gennym un o’r enwau gorau yng Nghymru am safon uchel y dysgu a’r addysgu – nid yn unig ar gyfer cyrsiau Safon Uwch ond ar draws ein darpariaeth alwedigaethol hefyd, ac mae cyflawniadau ein myfyrwyr heb eu hail.

Yn 2020, roedd dros 1,000 o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i’r brifysgol gyda dim llai nag 11 myfyriwr yn symud ymlaen i Rydychen neu Gaergrawnt. Ond roedd myfyrwyr galwedigaethol y llynedd yr un morllwyddiannus gyda dim llai na 15 o fyfyrwyr – ar draws 12 maes galwedigaethol gwahanol – yn ennill aur yng nghystadleuaeth ragbrofol Sgiliau’r DU yn ddiweddar. Mae gennym hefyd bum myfyriwr yng ngharfan y DU ar gyfer y gystadleuaeth WorldSkills sydd ar ddod yn Shanghai.

Ein nod yw helpu ein holl fyfyrwyr i gyflawni eu potensial unigol. A dyma lle mae Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe yn chwarae rhan, gan sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael cymorth unigol ar un o bum llwybr dilyniant ar ôl iddynt orffen eu cwrs:

  1. Cynnig i brifysgol yn y DU
  2. Cwrs addas arall yn y Coleg
  3. Cyflogaeth
  4. Prentisiaeth sy’n gysylltiedig ag anghenion Abertawe a rhanbarth de-orllewin Cymru
  5. Cymorth cyflogadwyedd personol i’w helpu i gael swydd

Rydym bob amser yma i’ch helpu i wneud y penderfyniadau hyn ac felly mae croeso i chi gysylltu â ni

Mark Jones Pennaeth a Phrif Weithredwr