Mae prentisiaeth yn ffordd wych o ennill cymhwyster tra byddwch yn gweithio ac yn ennill cyflog. Gwybod mwy am brentisiaethau, beth maen nhw’n ei gynnwys, sut i wneud cais a mwy...

Beth yw Prentisiaeth?

Swyddi yw prentisiaethau yng Nghymru sy’n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy’n benodol i swydd. Rydych yn cael cyflog tra’n gweithio a dysgu.

Beth yw’r Lefelau Prentisiaethau?

Mae pedair lefel Prentisiaeth:

  • Prentisiaeth Sylfaen – byddech fel arfer yn ennill cymhwyster Lefel 2 (sy’n cyfateb i Lefel A * -C TGAU) sy’n berthnasol i’r swydd
  • Prentisiaeth – byddech yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch) sy’n berthnasol i’r swydd
  • Prentisiaeth Uwch – byddech yn  gweithio tuag at gymhwyster uwch Lefel 4 a thu hwnt. Gallai hyn fod yn HNC/HND neu Radd Sylfaen
  • Prentisiaeth Gradd – mae’r rhain yn cynnig addysg ar Lefel 6 ac yn rhoi cyfle i chi ennill gradd baglor lawn. Maent yn cyfuno gweithio ag astudio’n rhan-amser mewn prifysgol neu goleg