Angen rhywfaint o gymorth i gael gwaith? Bydd yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu gyda hynny.

Neidia ‘mlaen er mwyn cael swydd â Twf Swyddi Cymru+. Dyn ifanc hapus mwn cadair swyddfa

Angen rhywfaint o gymorth i gael gwaith?

Os wyt ti’n gwybod beth rwyt ti am ei wneud ac yn chwilio’n frwd ac yn barod i ddechrau gweithio, gall yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ dy helpu i gael swydd.

Byddi di’n gweithio’n agos gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn dod o hyd i gyfle swydd o ansawdd gyda chyflogwr lleol. Byddi di’n rhan o gwmni ac yn dilyn telerau ac amodau llawn y cyflogwr ac yn cael dy dalu.

Mae cyflogwyr yn derbyn cymhorthdal cyflog gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu dy gyflog am y chwe mis cyntaf. Felly, mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen ddeniadol i gyflogwyr – gan helpu i greu rhagor o gyfleoedd am swyddi a fydd yn dy helpu i waith.

Beth sy’n digwydd ar elfen Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+?

Byddi di’n cytuno ar dy Gynllun Dysgu Unigol gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau hyfforddi a datblygu sy’n benodol i ti.

Gallai gweithgareddau gynnwys pob un neu gyfuniad o’r canlynol:

  • Cyfleoedd dysgu mewn canolfan gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+
  • Cymorth i fagu hyder a gwella dy dechnegau mewn cyfweliadau
  • Cymorth i chwilio am swyddi ac ymgeisio amdanyn nhw
  • Coetsio a mentora yn ystod y chwe mis cyntaf mewn cyflogaeth er mwyn i ti allu parhau i dyfu a datblygu dy sgiliau

Bydd dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ yn dy gefnogi i sicrhau dy fod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnat ti.

Faint fyddi di’n cael dy dalu?

Yn yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ byddi di’n gallu derbyn lwfans hyfforddiant o hyd at £55 yr wythnos tra byddi di’n chwilio am waith.

Bydd yn rhaid i ti fynychu o leiaf 16 awr yr wythnos. Fodd bynnag, bydd y lwfans hyfforddiant llawn o £55 ond yn cael ei dalu os wyt ti’n mynychu 30 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod. Bydd swm y lwfans hyfforddiant y byddi di’n ei dderbyn yn dibynnu ar nifer dy oriau.

Pan fyddi di’n cael swydd, yn hytrach na lwfans hyfforddiant byddi di’n ennill cyflog go iawn ar lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf.

Pan fyddi di ar raglen Twf Swyddi Cymru+ byddi di hefyd yn cronni gwyliau blynyddol bob mis heb iddo effeithio ar dy lwfans hyfforddiant.

Barod i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+?

Os wyt ti’n barod i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+ yna cysyllta gyda’n cynghorwyr Cymru’n Gweithio.