Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Neidia ‘mlaen â dy brofiad gwaith gyda Twf Swyddi Cymru+. Peintiwr-addurnwr ifanc anabl yn gwenu

Angen cymwysterau neu gymorth pellach i gymryd dy gam nesaf?

Os oes gen ti swydd benodol neu lwybr gyrfa mewn golwg, bydd yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu i wireddu hyn.

Galli di ennill sgiliau newydd yn y pwnc o’th ddewis, a chymwysterau i dy helpu i gamu ymlaen i lefel uwch.

Galli di hefyd gael profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol. Efallai y byddi di hyd yn oed yn cael cyfweliad swydd go iawn ar ddiwedd dy brofiad gwaith – a bydd y cymorth y byddi di’n ei gael gan Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu i wneud argraff dda.

Beth sy’n digwydd ar elfen Datblygu Twf Swyddi Cymru+?

Byddi di’n cytuno ar dy Gynllun Dysgu Unigol gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau hyfforddi a datblygu sy’n benodol i ti.

Gallai gweithgareddau gynnwys pob un neu gyfuniad o’r canlynol:

  • Cyfleoedd dysgu mewn canolfan gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+
  • Treialon gwaith byr gydag un cyflogwr neu fwy
  • Prosiectau cymunedol
  • Gwaith gwirfoddol

Bydd dy gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith yn adlewyrchu dy ddiddordebau, a byddi di’n cael y cyfle i gael blas ar bob math o weithgareddau sy’n adlewyrchu swyddi go iawn.

Bydd dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ yn dy gefnogi i sicrhau dy fod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnat ti.

Faint fyddi di’n cael dy dalu?

Yn yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ byddi di’n gallu derbyn lwfans hyfforddiant o hyd at £55 yr wythnos.

Bydd yn rhaid i ti fynychu o leiaf 16 awr yr wythnos. Fodd bynnag, bydd y lwfans hyfforddiant llawn o £55 ond yn cael ei dalu os wyt ti’n mynychu 30 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod. Bydd swm y lwfans hyfforddiant y byddi di’n ei dderbyn yn dibynnu ar nifer dy oriau.

Pan fyddi di ar raglen Twf Swyddi Cymru+ byddi di hefyd yn cronni gwyliau blynyddol bob mis heb iddo effeithio ar dy lwfans hyfforddiant.

Cymorth ychwanegol

I’r rhai sydd ei angen, mae cymorth ariannol a phersonol ychwanegol ar gael i dy helpu i gwblhau dy raglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd meini prawf cymhwyster yn gymwys, a bydd ein cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn trafod dy amgylchiadau wrth iddyn nhw asesu dy anghenion.

Barod i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+?

Os wyt ti’n barod i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+ yna cysyllta gyda’n cynghorwyr Cymru’n Gweithio.