Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa rwyt ti am ei ddilyn? Gall yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ dy helpu i benderfynu.

Neidia ‘mlaen i wella dy hyder gyda Twf Swyddi Cymru+. Dyn ifanc hyderus yn syllu’n syth i gamera

Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa rwyt ti am ei ddilyn?

Bydd yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Mae hefyd yn lle da i ddechrau os wyt ti angen rhagor o gymorth i gymryd rhan mewn cyflogaeth ac addysg.

Mae’n rhoi’r cyfle i ti gael blas ar swyddi a allai fod o ddiddordeb i ti cyn i ti ymrwymo i gwrs neu brentisiaeth. Bydd hefyd yn dy helpu i fod yn barod a symud ymlaen i’r byd gwaith.

Beth sy’n digwydd ar elfen Ymgysylltu Twf Swyddi Cymru+?

Byddi di’n cytuno ar dy Gynllun Dysgu Unigol gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau hyfforddi a datblygu sy’n benodol i ti.

Gallai gweithgareddau gynnwys pob un neu gyfuniad o’r canlynol:

  • Cyfleoedd dysgu mewn canolfan gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+
  • Treialon gwaith byr gydag un cyflogwr neu fwy
  • Lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr lleol a all bara hyd at 4 wythnos ar y tro
  • Prosiectau cymunedol
  • Gwaith gwirfoddol

Bydd dy gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith yn adlewyrchu dy ddiddordebau, a byddi di’n cael y cyfle i gael blas ar bob math o weithgareddau sy’n adlewyrchu swyddi go iawn.

Bydd dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ yn dy gefnogi i sicrhau dy fod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnat ti.

Faint fyddi di’n cael dy dalu?

Yn yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ byddi di’n gallu derbyn lwfans hyfforddiant o hyd at £30 yr wythnos.

Does dim isafswm oriau presenoldeb yr wythnos. Fodd bynnag, bydd y lwfans hyfforddiant llawn o £30 ond yn cael ei dalu os wyt ti’n mynychu 21 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod. Bydd swm y lwfans hyfforddiant y byddi di’n ei dderbyn yn dibynnu ar nifer dy oriau.

Pan fyddi di ar raglen Twf Swyddi Cymru+ byddi di hefyd yn cronni gwyliau blynyddol bob mis heb iddo effeithio ar dy lwfans hyfforddiant.

Cymorth ychwanegol

I’r rhai sydd ei angen, mae cymorth ariannol a phersonol ychwanegol ar gael i dy helpu i gwblhau dy raglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd meini prawf cymhwyster yn gymwys, a bydd ein cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn trafod dy amgylchiadau wrth iddyn nhw asesu dy anghenion.

Barod i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+?

Os wyt ti’n barod i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+ yna cysyllta gyda’n cynghorwyr Cymru’n Gweithio.