Crynodeb
Gweithredir y polisi preifatrwydd hwn gan adran Addysg Cyngor Abertawe. Mae’r polisi’n ymwneud yn benodol â’r cymhwysiad gwe Fy Newis (cyfeirir ato fel gwefan).
I gysylltu â ni mewn perthynas â’r polisi preifatrwydd hwn, defnyddiwch y cyfeiriad ebost isod:
I grynhoi, yn dibynnu ar eich perthynas â ni, fe fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
- Yn ôl y gofyn i ddilysu eich mynediad i’ch cais ar-lein.
- I drosglwyddo eich cais i’r sefydliad perthnasol, lle bo gofyn.
- Trosglwyddo ceisiadau a wneir i’ch sefydliad i chi, lle bo gofyn.
- Fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn gallu darparu ystadegau am geisiadau Ôl-16.
- Fel sy’n ofynnol gan dimoedd ac adrannau eraill Cyngor Abertawe, i hwyluso’ch lles a’ch diogelwch eich hun.
- I’ch darparu â nodweddion personoli, megis dewis Cymraeg / Saesneg.
- I’ch galluogi i arbed a pharhau gyda’ch cais ar ddyddiad diweddarach.
- I ddarparu cyngor i chi pe bai problem yn codi gyda’ch cais ar-lein.
- Rheoli a gwella gwasanaeth ar-lein Fy Newis.
- I gydymffurfio â’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr, a fel y’i cymhwysir yng Nghymru.
Mae’r polisi preifatrwydd hwn, sy’n cwmpasu eich holl wybodaeth bersonol a gesglir ar-lein neu all-lein, dros y ffôn neu’n ysgrifenedig, yn darparu gwybodaeth am y gweithgareddau ac yn esbonio eich hawliau a sut i’w hymarfer.
Mi fydd y polisi hwn yn cael ei ddehongli yn unol â’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr, fel y’i cymhwysir yng Nghymru. Fe fydd unrhyw newidiadau i’n polisi preifatrwydd yn cael eu postio ar y dudalen hon.
Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cadarnhau eich bod yn cytuno â thelerau’r polisi hwn ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
Yn ogystal â Pholisi Preifatrwydd y cymhwysiad gwe benodol hwn; Mae Cyngor Abertawe, ar raddfa ehangach, yn darparu gwybodaeth ar sut y mae’ch gwybodaeth yn cael ei gasgu, ei ddefnyddio a’i ddiogelu.
Ein Hymrwymiadau
Mae adran Addysg Cyngor Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio’r cymhwysiad gwe Fy Newis.
Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich gwybodaeth, ni allwn warantu diogelwch neu ddibynadwyedd gwasanaethau trydydd parti. Chi sydd yn gyfrifol am eich defnydd o’r rhyngrwyd a’r weithred o drosglwyddo data. Ar ôl inni dderbyn eich gwybodaeth, fe fyddwn yn rhoi gweithdrefnau diogelwch perthnasol ar waith i geisio atal unrhyw fynediad anawdurdodedig.
Ni fyddwn yn trosglwyddo gwybodaeth amdanoch oni bai bod rhaid i ni wneud hynny o dan gyfraith yng Nghymru a Lloegr, fel y’i cymhwysir yng Nghymru. Ni fyddwn ychwaith yn defnyddio eich data mewn ffyrdd a allai effeithio arnoch mewn ffyrdd anghyfiawnadwy ac andwyol.
Gall Fy Newis gynnwys dolenni gwe i sefydliadau addysgol trydydd parti, cynlluniau prentisiaethau, elusennau a gwefannau sy’n darparu cyngor. Os ydych chi’n dilyn dolen i unrhyw wefan allanol, cadwch o fewn cof y bydd ganddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain. Ni fydd y polisïau yma’n gysylltiedig â Fy Newis na Chyngor Abertawe. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio’r polisïau yma cyn cyflwyno gwybodaeth bersonol i’r wefan.
Ni fydd Cyngor Abertawe yn arddangos nac yn defnyddio hysbysebu masnachol ar wefan Fy Newis, oni bai ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol â’r sector addysg. Ni fydd Cyngor Abertawe chwaith yn gwneud defnydd o dargedi ymddygiad, olion bysedd na gwasanaethau tracio ar wefan Fy Newis.
Rheolydd a Phrosesydd Data
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu’r sail y byddwn yn casglu eich data personol yn ystod sesiynau pori, neu’r data y byddwch yn ei ddarparu i ni mewn sesiynau pori. Gall y wybodaeth yma gael ei brosesi gan Gyngor Abertwe yn ogystal â darparwyr addysg cysylltiedig sy’n defnyddio Fy Newis.
Ni fydd Cyngor Abertawe yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol sensitif amdanoch chi, oni bai eich bod wedi cytuno fel arall. Fodd bynnag, mae’r cymhwysiad gwe Fy Newis wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n eich galluogi i chi ymweld â’r wefan heb orfod datgelu unrhyw wybodaeth bersonol/sensitif.
Mae’r cymhwysiad gwe Fy Newis wedi’i strwythuro’n dair elfen:
- Y cymhwysiad gwe cyhoeddus (cyfeirir ato fel “gwefan”);
- Proses Ymgeisio Ôl-16 breifat, a ddefnyddir gan bobl ifanc sy’n dymuno ymgeisio am addysg Ôl-16; a
- Dangosfwrdd preifat y Darparwyr, sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr i reoli ceisiadau.
Mewn perthynas â’r cymhwysiad gwe cyhoeddus – gwefan Fy Newis; Bydd Cyngor Abertwe yn gweithredu fel y Rheolydd Data a’r Prosesydd Data.
Mewn perthynas â’r broses ymgeisio Ôl-16 breifat; Fe fydd Cyngor Abertawe yn gweithredu fel Prosesydd Data a bydd y darparwr addysg berthnasol yn gweithredu fel Rheolydd Data.
Mewn perthynas â dangosfwrdd preifat y Darparwyr; Fe fydd Cyngor Abertawe yn gweithredu fel y Rheolydd Data a’r Prosesydd Data.
Fel ymgeisydd, bydd eich darparwr addysg dewisedig a Chyngor Abertawe yn ymdrin â’ch holl wybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data 2018 (GDPR).
Gwybodaeth y Gallwn ei Gasglu
Mae Cyngor Abertawe a’r darparwyr addysg sy’n defnyddio Fy Newis fel arfer yn casglu manylion a ddarperir gennych chi, yn ogystal â gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch ymweliadau â gwefan Fy Newis. Efallai y byddwn yn casglu a phrosesi’r data canlynol amdanoch:
Gwybodaeth rydych chi’n ei ddarparu i ni. Efallai y byddwch yn darparu gwybodaeth i ni drwy ymweld â’r wefan, trwy gwblhau’n llawn neu’n rhannol (neu drwy arbed a chwblhau yn hwyrach) ffurflen addysg Ôl-16, trwy gysylltu â ni dros y ffôn/e-bost a.y.b. Gall y wybodaeth hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eich enw, cofnod o’r ysgolion a fynychwyd yn y gorffennol a’r arholiadau a sefid, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, cyfeiriad eich cartref, eich cenedligrwydd a manylion cyswllt eich rhiant/gwarcheidwad. Yn ogystal, efallai y byddwn yn casglu eich cyfeiriad IP, eich RhUD ac unrhyw ddangosyddion perthnasol eraill, er mwyn ein galluogi i sicrhau diogelwch data ac i wneud yn siŵr bod y data wedi ei nodi’n gywir.
Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi. Mewn perthynas â’ch ymweliadau â gwefan Fy Newis, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth dechnegol yn awtomatig (heb ofyn i chi), gan gynnwys y cyfeiriad IP a ddefnyddiwyd i gysylltu eich cyfrifiadur â’r rhyngrwyd, y gwerthwr pori (browser vendor), eich dewis iaith, yn ogystal â’ch manylion mewngofnodi. Rhaid i ni wneud hyn er mwyn sicrhau bod y cymhwysiad gwe yn perfformio’n gywir.
Fe allwn brosesi’r wybodaeth yma er mwyn:
- Rhannu eich cais Ôl-16 gyda’ch darparwr addysg dewisol.
- Gwneud nodyn o’r ymgeiswyr hynny y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt wrth gwblhau eu ceisiadau.
- Deall pa gymorth a allai helpu i wella ymgeiswyr a darparwyr addysg.
- Ymateb i ymholiadau anhysbys ynghylch data o Lywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’r rhai sy’n derbyn addysg Ôl-16.
- Eich galluogi chi i “arbed” a “pharhau” gyda’ch cais Ôl-16 ar ddydiad diweddarach.
- Galluogi darparwyr addysg i nodi ymgeiswyr.
- Galluogi darparwyr addysg i reoli ceisiadau ar ran yr ymgeiswyr.
- Gwella ein gwasanaethau, gan ddod o hyd i / atal ahocsion o dwyll neu cam-drin sy’n gysylltiedig â’n cymhwysiad gwe.
- Sicrhau parhad di-dor i’n gwasanaeth.
- Hwyluso’ch hawl i ddewis Cymraeg neu Saesneg.
- Hwyluso eich mynediad at y cymhwysiad gwe a rhannau o’r wefan.
- Cydymffurfio â’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr fel y’i cymhwysir yng Nghymru.
Efallai bydd eich gwybodaeth yn cael ei brosesi er mwyn:
- Ymateb i ymholiad cyfreithiol, ac i
- gynorthwyo wrth sicrhau diogelwch a lles pobl ifanc.
- Cadw cofnod o’n cyfatebiaeth â chi.
Gellir defnyddio’r wybodaeth bersonol i gyfathrebu â chi os oes gennym rwymedigaethau cyfreithiol i wneud hynny, neu os ydych eisoes wedi cydsynio. Ni fydd y wybodaeth bersonol yn cael ei ddefnyddio at ddibenion marchnata neu hysbysebu.
Bydd y wybodaeth bersonol hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnwys o’r wefan yn cael ei gyflwyno i chi ac i’ch cyfrifiadur mewn modd effeithiol, ac/neu i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’n cymhwysiad gwe.
Mewn achos o’r fath, mi fydd Cyngor Abertawe bob tro yn rhoi cyfle i chi optio allan o gyfathrebiadau ar sail caniatâd.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei drin yn gyfrinachol, ac fel y nodir yn y polisi preifatrwydd hwn, ni fydd Dinas a Sir Abertawe yn datgelu eich gwybodaeth bersonol (heblaw eich bod wedi rhoi caniatâd i wneud fel arall).
Ceisiadau Ôl-16
Ni fydd Cyngor Abertawe yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth adnabyddadwy neu’n gwerthu gwybodaeth am geisiadau Ôl-16 a ddarperir drwy gymhwysiad gwe Fy Newis.
Efallai bydd angen i Gyngor Abertawe ddarparu gwybodaeth ddienw am geisiadau Ôl-16 (e.e. cyfanswm yr ymgeiswyr ar gyfer ysgol), os gofynnir amdano gan Lywodraeth Cymru neu bartïon eraill. Bydd gwybodaeth o’r fath yn cael ei ddarparu dim ond os nad oes risg o adnabod yr unigolyn o dan sylw.
Ni fydd Cyngor Abertawe yn cadw gwybodaeth bersonol am ddisgyblion neu geisiadau Ôl-16 a gymerwyd o wefan Fy Newis y tu hwnt i’r cyfnod gofynnol, er mwyn cefnogi darparwr Addysg sydd wedi cyflwyno cais am gymorth i gefnogi achos lles neu ddiogelwch. O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae’r hawl gan ymgeisydd i ddiwygio ei gais Ôl-16 neu ei dynnu yn ôl. Dylid cyflwyno pob cais o’r fath yn uniongyrchol i’r darparwr Addysg y gwnaed y cais gwreiddiol iddo.
Ar gais rhiant awdurdodedig, gwarcheidwad neu gynrychiolydd cyfreithiol, mi fydd darparwyr addysg sy’n defnyddio Fy Newis yn gyfrifol am gefnogi mynediad i, cadw a dileu gwybodaeth adnabyddadwy bersonol a gedwir mewn cais Ôl-16 sy’n gysylltiedig â’u sefydliad.
Bydd Cyngor Abertawe a darparwyr addysg sy’n defnyddio Fy Newis yn gweithredu’n rhesymol i warchod diogelwch, preifatrwydd, cyfrinachedd ac uniondeb gwybodaeth bersonol rhag risgiau – megis mynediad / defnydd anawdurdodedig, neu ddatgeliad anfwriadol / amhriodol – drwy ddefnyddio mesurau diogelwch gweinyddol a thechnolegol, yn ogystal â mesurau diogelwch corfforol sy’n briodol i sensitifrwydd y wybodaeth.
Diogelu Data
Mae cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn bwysig i ni ac rydym yn gweithredu’n ofalus i gyfyngu ar y wybodaeth sy’n cael ei gasglu drwy Fy Newis a sut rydym yn ei ddefnyddio.
Mae Cyngor Abertawe wedi ceisio creu cymhwysiad gwe diogel a dibynadwy. Gan ystyried natur y wybodaeth, mae’r Cyngor hefyd wedi mabwysiadu mesurau diogelwch sefydliadol/technegol priodol.
Fodd bynnag, dylech nodi y gellir trosglwyddo ymholiadau ebost trwy ddulliau ansicr a’u storio all-lein. Dylech ddefnyddio’r rhyngrwyd a Fy Newis ar eich menter eich hun yn llwyr. Ni fydd Cyngor Abertawe yn cymryd cyfrifoldeb nac yn atebol dros ddiogelwch gwybodaeth bersonol sy’n cael ei drosglwyddo ar y rhyngrwyd.
Rydym wedi ein lleoli yn Abertawe, Cymru, yn y Deyrnas unedig. Lle bo modd, mae ein gweinyddion yn cael eu cynnal yng nghanolfan ddata Microsoft Azure, yng Nghaerdydd. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Fe fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd ei angen arnom at y diben y cafodd ei gasglu ar ei gyfer. Fodd bynnag, gallwn gadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach, lle bo gofyn, i sicrhau bod eich cais yn cael ei brosesi’n gywir ac fel bod eich darparwr addysg yn gallu cadw cofnodion manwl.
Ni fydd ceisiadau Ôl-16 yn cael eu cadw y tu hwnt i’r cyfnod sydd angen i’r darparwr addysg cysylltiedig eu cadw, sef uchafswm o 2 flynedd o’r dyddiad cwblhawyd y cais. Gall darparwyr addysg gadw cofnodion o geisiadau eu hunain, ar wahân i Fy Newis, os yw’n ofynnol iddynt wneud hynny fel rhan o sail gyfreithiol.
Mae’r holl wybodaeth bersonol yn cael ei storio mewn cronfeydd data sydd wedi’u hamgrptio. Ni fydd gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’ch tueddiadau pori ar wefan Fy Newis yn cael ei gadw ar y gweinydd am gyfnod hirach na’r cyfnod o amser sydd ei angen i reoli eich sesiwn ac i ddarparu ystadegau dienw i Gyngor Abertawe, sef cyfnod o 12 mis (fel arfer). Ni fyddwn yn defnyddio gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’ch cyfeiriad IP neu’ch gwerthwr pori i’ch tracio ar y rhyngrwyd. Nid ydym yn defnyddio gwasanaethau dadansoddeg trydydd parti.
Datgelu i’r Trydydd Parti
Ni fydd Cyngor Abertawe yn rhannu cynnwys ceisiadau Ôl-16 gydag unrhyw drydydd parti y tu allan i’r adran addysg, oni bai y derbynnir cyfarwyddid cyfreithiol i wneud fel arall neu fel y disgrifir yn y cytundeb hwn. Dylid cyflwyno unrhyw gais am fynediad at gynnwys cais Ôl-16 yn uniongyrchol i’r darparwr addysg perthnasol, gan mai hwy sy’n gyfrifol am gynnal y data.
Mi fydd darparwyr Ôl-16 sy’n gweithredu fel Rheolydd Data ar gyfer ceisiadau Ôl-16 yn datgelu gwybodaeth i gyrff ac awdurdodau priodol yn ddidwyll, pan fo angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith. Gall hyn gynnwys timoedd o fewn yr adran addysg (e.e. seicolegwyr), y gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau iechyd a’r heddlu.
Oni bai ei bod hi’n ofynnol i wneud hynny o dan rwymedigaethau cyfreithiol, cyn datgelu gwybodaeth, bydd darparwyr Ôl-16 yn ceisio caniatad yr ymgeisydd, ei rhiant / gwarcheidwad neu gynrychiolydd cyfreithiol.
Bydd Cyngor Abertawe ond yn rhannu data sy’n gysylltiedig â sesiynau pori (gweler Cyfeiriadau IP a Cwcis) i:
- Gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, neu i
- Gorfodi / gweithredu ein telerau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r gwasanaeth a chytundebau eraill.
- Gwarchod hawliau, eiddo, neu ddiogelwch Cyngor Abertawe.
- Gwarchod hawlia, eiddo, neu ddiogelwch ei weithwyr, neu unigolion eraill.
- Ymchwilio mewn i / atal trosedd.
- Cael gafael ar gyngor cyfreithiol.
Ni fydd gwybodaeth bersonol a gesglir gan Fy Newis yn cael ei rhannu gan Gyngor Abertawe na darparwyr cysylltiedig sydd â:
- Hysbysebwyr trydydd parti,
- Darparwyr cyfryngau cymdeithasol, neu
- Gwmnïau dadansoddol.
O bryd i’w gilydd, gall Gyngor Abertawe a darparwyr Ôl-16 rhyddhau ystadegau dienw am geisiadau Ôl-16. Fe fydd y data yma, fodd bynnag, yn osgoi enwi’r ymgeisydd unigol ac yn dilyn y fformat enghreifftiol yma: “Mae 200 o ymgeiswyr yn Abertawe wedi cyflwyno cais i Ysgol Z.”
Cyfeiriadau IP a Chwcis
Bydd angen arnom i gasglu gwybodaeth am eich cyfeiriad IP wrth i chi ymweld â gwefan Fy Newis er mwyn i ni allu sicrhau diogelwch y cymhwysiad gwe. Efallai y byddwn yn dadansoddi manylion dienw yr ymweliadau â’n gwefan, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, patrymau defnydd yn ystod yroriau prysuraf a phoblogrwydd y cynnwys.
Ni fyddwn yn rhannu data dadansoddol gyda gwasanaethau gwe trydydd parti.
Mae’r rhan fwyaf o wefannau’n defnyddio cwcis i wneud y profiad o bori yn fwy effeithlon, ac i helpu’r unigolyn i ddefnyddio gwefannau yn eu llawn gogoniant. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu trosglwyddo i ddisg caled neu gof mewnol eich dyfais symudol. Gallwch gael gwared â chwcis yn eich gosodiadau pori.
Yn debyg i’r mwyafrif o wefannau, mae Fy Newis yn defnyddio Cwcis.
Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, fe fyddwn yn defnyddio cwcis angenrheidiol yn unig i hwyluso’r broses o ddefnyddio ein gwefan, ac i’ch galluogi i bersonoli dewisiadau ac i gynnal eich manylion mewngofnodi yn ystod eich sesiwn dilys.
Nid ydym yn defnyddio dadansoddeg trydydd parti na chwcis traws-wefanol.
Gallwch wrthod derbyn cwcis trwy actifadu’r gosodiad perthnasol ar eich porwr gwe; fodd bynnag, os ydych chi’n penderfynu gwrthod cwcis efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhannau penodol o’r wefan e.e. parhau gyda chais. Efallai na fyddwch chwaith yn gallu gwneud dewisiadau personoli.
Oni bai eich bod wedi newid eich gosodiadau pori i wrthod cwcis, fe fyddant yn cael eu defnyddio yn awtomatig gan eich porwr lle bo angen.
Os ydych chi am wybod rhagor am gwcis neu’n dymuno gwybod sut i ddileu neu reoli cwcis sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur, ewch i:
At Ba Ddibenion yr Ydym yn Defnyddio Cwcis
Mae Fy Newis yn defnyddio cwcis at dri diben:
- Er mwyn eich helpu i bersonoli eich profiad ar wefan Fy Newis.
- I reoli sesiynau, gan gynorthwyo gyda’r broses o gwblhau cais ôl-16.
- I gynorthwyo gyda dilysu i sesiynau at ddibenion diogelwch.
- Mae cwcis personoli yn eich caniatau i ddewis ieithoedd gwahanol (e.e. Cymraeg a Saesneg).
Nid yw gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r personoliad hwn yn cael ei storio na’i fonitro gennym, fe fydd hyn yn digwydd o fewn eich porwr gwe. Ni fyddwn chwaith yn defnyddio gwybodaeth sy’n deillio o gwcis personoli i adnabod unigolyn nac yn rhannu’r wybodaeth hyn â’r trydydd parti.
Mae cwcis dilysu a rheoli sesiynau yn ein helpu i sicrhau bod eich data yn parhau i fod yn ddiogel. Maent yn rhan o’r mesurau diogelwch ehangach rydym yn eu gweithredu. Fe fydd rhaid i ni ddefnyddio’r cwcis yma bob tro y byddwch yn gwneud cais Ôl-16 neu’n ceisio mynediad i’r Dangosfwrdd Darparwyr.
Mynediad at Wybodaeth
Rydym o’r farn bod y rhesymau cyfreithiol isod yn caniatau defnydd o’ch data personol:
A. Lle mae ei angen i chi gael mynediad at Fy Newis:
- I rheoli sesiynau dilysedig a gwybodaeth mewngofnodi.
- I alluogi eich darparwr dewisedig i reoli’ch cais Ôl-16.
- I alluogi Cyngor Abertawe i nodi pobl a allai fod angen cymorth.
B. Lle bydd angen gwirioneddol i ni gyrchu eich gwybodaeth:
- I fesur perfformiad Fy Newis a phrosesau mewnol.
- I ddilyn canllawiau ac arferion gorau cyrff rheoleiddio, megis Llywodraeth Cymru.
- I reoli ac archwilio ein gweinydd gwe a’n gweithrediadau rhwydweithiol.
- I gadw cofnod o gyfathrebu rhyngoch chi a ni.
- I weithredu ein dyletswyddau neu i gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol.
C. Gyda eich caniatad:
- I chi allu cyflwyno cais Ôl-16 i’ch darparwr dewisedig.
- I chi allu defnyddio’r Dangosfwrdd Darparwr.
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018 (GDPR), mae gennych hawliau penodol mewn perthynas â’r wybodaeth y mae Cyngor Abertawe a’r darparwr cysylltiedig yn cadw amdanoch.
Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wybodaeth ddefnyddiol am eich hawliau dros eich data personol.
- https://www.ico.org.uk/
Os ydych chi’n dymuno ymarfer eich hawliau, dylech gysylltu â’ch darparwr Ôl-16 gwreiddiol.
1. Yr hawl i dynnu caniatad yn ôl. Os ydych chi’n dymuno tynnu hawl yn ôl o ran storio eich gwybodaeth bersonol, bydd angen i chi dynnu’ch cais Ôl-16 yn ôl. I wneud hyn, fe ddylech gysylltu â’ch darparwr Ôl-16 gwreiddiol.
2. Yr hawl i gael mynediad at y wybodaeth a ddelir amdanoch. Os ydych chi’n dymuno cael gafael ar gais Ôl-16 rydych chi eisoes wedi gwneud, yna fe fydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr Ôl-16 gwreiddiol.
Os ydych chi’n dymuno cyrchu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r cyfeiriad IP neu ar gyfer aelodau o staff, y cyfrif dilysu y gwnaethoch ddefnyddio ar ein system ni; bydd angen i chi gysylltu â Chyngor Abertawe.
Yn y ddau achos, gyda rhai eithriadau wedi’u cynllunio i warchod hawliau eraill, bydd gennych hawl i gael gafael ar gopi o’r data personol a ddelir amdanoch, yn ogystal â gwybodaeth ar sut yr ydym yn defnyddio’ch data, gyda phwy rydym yn ei rannu a pha mor hir y byddwn yn ei gadw.
3. Yr hawl i gywiro gwybodaeth anghywir amdanoch. Mae gennych hawl i gywiro gwybodaeth amdanoch os yw’n ffeithiol anghywir.
Os ydych yn dymuno cywiro gwybodaeth a ddelir amdanoch sy’n gysylltiedig â chais Ôl-16, yna dylech gysylltu â’ch darparwr Ôl-16 gwreiddiol.
Os ydych chi’n dymuno cywiro gwybodaeth a ddelir amdanoch sy’n gysylltiedig â chyfrif dilysu staff (yr ydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i’n system), fe ddylech gysylltu â Chyngor Abertawe.
4. Yr hawl i wrthwynebu’r hyn a wnawn gyda’ch data, ac i gyfyngu arno. Wrth i ni brosesi eich data personol ar sail buddiant personol, fe fydd gennych yr hawl i wrthod ac i osod cyfyngiadau arno wrth inni ystyried eich gwrthwynebiad.
5. Yr hawl i gael eich gwybodaeth wedi’i ddileu (mewn rhai amgylchiadau). Mae gennych hawl i’w gwneud hi’n ofynnol i ni ddileu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, os nad yw’n berthnasol mwyach i’r rheswm y gwnaethom ei gasglu yn y lle cyntaf, neu os nad oes genym unrhyw sail gyfreithiol sy’n dynodi bod rhaid i ni ei gadw.
Os ydych chi’n dymuno dileu eich cais Ôl-16, bydd rhaid i chi gysylltu â’ch darparwr Ôl-16 gwreiddiol.
6. Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’r hawl gennych i gyflwyno cwyn am y ffordd yr ydym wedi ymdrin â’ch data personol i’r awdurdod goruchwylio, sef (yn y Deyrnas Unedig) Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Cyn i chi wneud hyn, gofynnwn i chi gysylltu â ni yn gyntaf er mwyn ceisio datrys y mater.
- addysg@swansea.gov.uk
- Ffoniwch 0303 123 1113 i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.