Telerau Defnyddio
Trwy ddefnyddio Fy Newis, rydych yn cytuno i’r telerau hyn.

Rhagarweiniad

Bydd y telerau ac amodau hyn yn rheoli’ch defnydd o’r cymhwysiad gwe Fy Newis a’r gwasanaethau ar wefan Fy Newis.

Gweithredir Fy Newis gan Gyngor Abertawe, y mae ei swyddfa gofrestredig yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN (‘Dinas a Sir Abertawe’, ‘Cyngor Abertawe’, ‘ni’ neu ‘ein’).

Darllenwch y telerau ac amodau hyn (y “Telerau”) cyn defnyddio Fy Newis. Mae’r telerau hyn yn berthnasol i ddefnyddio gwefan Fy Newis (‘Fy Newis’, ‘y wefan hon’) ac unrhyw wasanaeth cysylltiedig:

  • https://mychoice.swansea.education/

Os hoffech gysylltu â ni ynghylch y telerau ac amodau hyn gallwch wneud hynny trwy:

  • anfon e-bost atom yn addysg@abertawe.gov.uk, neu
  • ysgrifennu atom – Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Addysg, Dinas a Sir Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, SA1 3SN.

Trwy ddefnyddio’r wefan hon, ac o ystyried bod Cyngor Abertawe yn caniatáu i chi gael mynediad iddi, rydych chi’n derbyn ac yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr amodau a thelerau hyn (‘Telerau’, ‘Telerau Defnyddio’). O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn addasu’r Telerau hyn, felly parhewch i’w hadolygu pryd bynnag y byddwch yn cyrchu neu’n defnyddio’r wefan. Dim ond os ydych chi’n cytuno i’r telerau ac amodau hyn y gallwch chi ddefnyddio’r wefan hon a thrwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i’r telerau ac amodau hyn.

Os ydych chi’n anghytuno â’r telerau ac amodau hyn neu unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio gwefan Fy Newis.

Os ydych chi’n gweithredu yn ystod eich cyflogaeth gan endid cyfreithiol arall neu’n ei gynrychioli, rydych chi yn bersonol yn gwarantu ac yn cynrychioli i ni fod gennych chi’r awdurdod i dderbyn y telerau ac amodau hyn ar ran yr endid hwnnw, ac rydych chi’n ymrwymo i gadw at y telerau ac amodau hyn i’r graddau y maent yn berthnasol i chi fel defnyddiwr unigol.

Mae gwefan a gwasanaethau Fy Newis wedi’u cynllunio ar gyfer y sector addysg yn y Deyrnas Unedig. Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaethau ac eithrio at ddefnydd personol, prosiectau addysgol neu ymchwil academaidd. Yn benodol, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i wella eich offrymau busnes masnachol.

Canaiatâd i ddefnyddio’r Wefan

Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i ddefnyddio’r rhannau hynny o wefan Fy Newis sydd ar gael i ymwelwyr heb eu dilysu ac i ddefnyddio’r rhannau ychwanegol o’r wefan sydd ar gael i ddefnyddwyr wedi’u mewngofnodi a defnyddwyr ein gwasanaethau yn unig.

Gallwch:

  • weld tudalennau o’n gwefan a chyflwyno ffurflenni ar ein gwefan gan ddefnyddio porwr gwe;
  • lawrlwytho tudalennau o’n gwefan i’w storio mewn porwr gwe;
  • gwneud ceisiadau i’n Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (“API”), ac adalw gwybodaeth ohono; a
  • yn amodol ar ddarpariaethau eraill y telerau ac amodau hyn.
  • Ac eithrio at ddefnydd personol, prosiectau addysgol, ac ymchwil academaidd, rhaid i chi beidio â lawrlwytho unrhyw ddeunydd o’n gwefan na chadw unrhyw ddeunydd o’r fath ar eich cyfrifiadur.

Rhaid i chi beidio ag:

  • ailgyhoeddi deunydd o’n gwefan (gan gynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall);
  • gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’n gwefan neu ein gwasanaethau;
  • manteisio ar ddeunydd o’n gwefan neu ein gwasanaethau at ddiben masnachol; neu
  • ailddosbarthu deunydd o’n gwefan,
  • oni bai y caniateir yn benodol gan y telerau ac amodau hyn.

Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i rannau o’n gwefan a’n gwasanaethau, yn ôl ein disgresiwn; rhaid i chi beidio ag anwybyddu neu osgoi, na cheisio anwybyddu neu osgoi, unrhyw fesurau cyfyngu mynediad ar ein gwefan neu ein gwasanaethau.

Ac eithrio i’r graddau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith berthnasol, rhaid i chi beidio ag ôl-beiriannu, na cheisio ôl-beiriannu, elfennau meddalwedd gwefan Fy Newis neu wasanaethau cysylltiedig.

Dim Dibyniaeth

Er bod Cyngor Abertawe wedi ceisio sicrhau cywirdeb materol yr wybodaeth sydd ar gael ar wefan Fy Newis, nid yw Cyngor Abertawe yn gwarantu nac yn rhoi unrhyw warant ynghylch cywirdeb, prydlondeb na chyflawnrwydd unrhyw wybodaeth neu ddeunydd ar wefan Fy Newis.

Gan fod darparwyr Ôl-16 unigol yn gyfrifol am gynnal y cyrsiau sydd ar gael, nosweithiau agored a gwybodaeth arall, ni all Cyngor Abertawe dderbyn cyfrifoldeb os yw gwybodaeth o’r fath yn hen neu’n anghywir.

Bwriad Fy Newis yw caniatáu i oedolion ifanc wneud cais am addysg Ôl-16 gyda darparwyr Ôl-16 ar draws Cyngor Abertawe (‘sefydliadau addysgol’, ‘darparwyr’, ‘darparwyr Ôl-16’). Bwriad y wefan a’r gwasanaethau yw helpu ymgeiswyr i wneud cais am gyrsiau addas a’r darparwyr Ôl-16 o’u dewis, yn ogystal â galluogi darparwyr Ôl-16 i reoli’r ceisiadau a gânt.

Mae Cyngor Abertawe yn gwadu pob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth ar adnoddau, gwybodaeth, neu ddeunyddiau, gan unrhyw ddarparwr neu ymwelydd â gwefan Fy Newis a gwasanaethau cysylltiedig.

Rydym yn eich cynghori i wirio cywirdeb unrhyw wybodaeth cyn dibynnu arni.

Nid ydym yn gwarantu nac yn cynrychioli:

  • cyflawnrwydd neu gywirdeb yr wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan;
  • bod y deunydd ar y wefan yn gyfredol; neu
  • y bydd y wefan neu unrhyw wasanaeth ar y wefan yn parhau i fod ar gael.

Mae’r meddalwedd a ddefnyddiwn i ddarparu ein gwefan a’n gwasanaethau yn gymhleth. Rydych yn cydnabod nad yw meddalwedd cymhleth byth yn hollol rhydd o fygiau, ac nid ydym yn rhoi unrhyw warant y bydd ein meddalwedd yn hollol rhydd o fygiau o’r fath.

Rydym yn cadw’r hawl i derfynu neu newid unrhyw ran neu bob rhan o’n gwefan neu ein gwasanaethau, ac i roi’r gorau i gyhoeddi ein gwefan, ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn llwyr heb rybudd nac esboniad; ac eithrio i’r graddau y darperir yn benodol fel arall yn yr amodau a thelerau hyn, ni fydd gennych hawl i unrhyw iawndal neu daliad arall os bydd unrhyw wasanaethau gwefan yn cael eu terfynu neu eu newid, neu os byddwn yn rhoi’r gorau i gyhoeddi’r wefan.

Defnyddwyr Awdurdodedig

Mae rhannau o wefan a gwasanaethau Fy Newis wedi’u cyfyngu i ddefnyddwyr awdurdodedig. Oni bai eich bod yn ddefnyddiwr awdurdodedig, nid oes gennych hawl i gael mynediad at y rhannau hynny o’r wefan neu’r gwasanaethau. Gall unrhyw fynediad a gewch fod yn drosedd yn unol â’r Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron.

Os ydych chi’n cyrchu rhannau cyfyngedig o’r wefan ar ddamwain, anfonwch e-bost atom yn. addysg@abertawe.gov.uk.

Gall defnyddwyr awdurdodedig gynnwys gweithwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau addysgol yng Nghyngor Abertawe, yn ogystal â gweithwyr adran Addysg Cyngor Abertawe.

Eiddo Deallusol

Mae Fy Newis, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) testun, cynnwys, meddalwedd, fideos, graffeg, lluniau, darluniadau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnach a deunydd arall (‘Cynnwys’) yn cael ei warchod gan hawlfreintiau, cronfa ddata, hawliau mewn dyluniadau, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae’r cynnwys yn cynnwys cynnwys ym meddiant a rheolaeth Cyngor Abertawe a chynnwys ym meddiant a rheolaeth trydydd partïon a drwyddedwyd i Gyngor Abertawe.

Mae pob elfen unigol sy’n rhan o Fy Newis yn waith hawlfraint. Rydych yn cytuno i gadw at yr holl hysbysiadau neu gyfyngiadau hawlfraint ychwanegol sydd wedi’u cynnwys yn Fy Newis a’r telerau ac amodau hyn.

Ni chewch ddefnyddio unrhyw un o nodau masnach nac enwau masnach Cyngor Abertawe heb ganiatâd Cyngor Abertawe ac rydych yn cydnabod nad oes gennych unrhyw hawliau perchnogaeth mewn neu i unrhyw un o’r enwau a’r nodau hynny. Rydych yn cytuno i roi gwybod i Gyngor Abertawe mewn ysgrifen ac yn ddioed unwaith i chi ddod yn ymwybodol o unrhyw fynediad neu ddefnydd anawdurdodedig i Fy Newis gan unrhyw barti neu o unrhyw hawliad bod Fy Newis neu unrhyw Gynnwys yn torri unrhyw hawlfraint, nod masnach, neu unrhyw hawl arall sydd gan unrhyw barti o dan gontract, deddf neu gyfraith gwlad.

Dolenni Allanol i/o Fy Newis

Mae gwefannau neu dudalennau y mae Fy Newis yn gysylltiedig â nhw er gwybodaeth yn unig ac nid ydynt wedi’u hadolygu gan Gyngor Abertawe.

Nid oes gan Gyngor Abertawe unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau neu’r tudalennau sy’n gysylltiedig neu’n cysylltu â Fy Newis neu oddi yno (gan gynnwys gwasanaethau cysylltiedig), ac nid yw Cyngor Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw golledion neu gosbau o gwbl a allai godi pe byddech yn clicio drwodd i wefannau neu wasanaethau cysylltiedig.

Hawliau Trwydded

Darperir mynediad i wefan a gwasanaethau Fy Newis dros dro ac rydych yn cydnabod nad ydych yn caffael unrhyw hawliau na thrwyddedau yn Fy Newis a/neu’r Cynnwys nac iddynt heblaw’r hawl gyfyngedig i ddefnyddio Fy Newis yn unol â’r Telerau hyn ac i lawrlwytho yn ôl y telerau a nodir yn yr amodau a thelerau hyn.

Os rhoddir enw defnyddiwr, cyfrinair neu ddarn arall o wybodaeth i chi fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol ac ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw enw defnyddiwr neu gyfrinair os ydych chi, yn ein barn ni, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r Telerau.

Heblaw fel y nodir yn yr adran hon (neu a ddarperir gan y gyfraith berthnasol) ni chewch gopïo, dadelfennu, dadosod, ôl-beiriannu, dosbarthu, sicrhau ei fod ar gael, addasu, lanlwytho, neu ymelwa mewn unrhyw ffordd arall ar unrhyw ran o Fy Newis.

Dim ond at ddibenion cyfeirio personol neu addysgol y gallwch argraffu copïau o dudalennau gwe Fy Newis, ac ar yr amod bod copïau printiedig o’r fath yn cael eu defnyddio at ddefnydd personol yn unig neu mewn sefydliadau addysgol sydd wedi’u lleoli yn Ninas a Sir Abertawe; ac

Rydych yn cadw pob hysbysiad hawlfraint ar gopi printiedig o’r fath a byddwch yn parhau i fod yn rhwym wrth delerau geiriad a hysbysiadau o’r fath.

Heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr uchod, gallwch gysylltu â Fy Newis, yn rhydd o freindal, ar yr amod nad yw unrhyw ddolen i Fy Newis yn gwneud y rhan honno o Fy Newis yn hygyrch i unrhyw unigolyn nad yw’n ddefnyddiwr awdurdodedig. Mae Fy Newis wedi’i gyfyngu i’r cyhoedd yn gyffredinol ac nid yw ond yn hygyrch i ddefnyddwyr awdurdodedig. Trwy gysylltu ag unrhyw rannau cyfyngedig o Fy Newis rydych yn gwarantu mai dim ond defnyddwyr awdurdodedig fydd yn gallu cyrchu’r rhan honno o Fy Newis.

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl ar unrhyw adeg a heb rybudd.

Ni chaniateir defnyddio Fy Newis na’r wybodaeth a gynhwysir ynddo i lunio cronfa ddata o unrhyw fath heb gydsyniad ymlaen llaw, ac ni chaniateir storio Fy Newis (yn ei gyfanrwydd nac mewn unrhyw ran) mewn cronfeydd data er mwyn i chi neu unrhyw drydydd parti ei gyrchu neu i’w ddosbarthu.

Caniatâd

Os hoffech gael gwybodaeth am gael caniatâd Cyngor Abertawe i ddefnyddio unrhyw ran o’r Cynnwys neu i fewnosod dolenni dwfn ar eich gwefan i’r tudalennau gwe sydd ar gael ar Fy Newis ac eithrio fel y caniateir gan y Telerau hyn, e-bostiwch addysg@abertawe.gov.uk.

Mae contract o dan yr amodau a thelerau hyn er ein budd ni a’ch budd chi, ac ni fwriedir iddo fod o fudd i unrhyw drydydd parti.

Feirysau, Hacio a Throseddau Eraill

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio Fy Newis trwy gyflwyno feirysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall yn fwriadol sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio â cheisio sicrhau mynediad anawdurdodedig i Fy Newis neu’r gweinydd y mae’n cael ei storio arno ac ni ddylech ymosod ar Fy Newis trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.

Ni fydd Cyngor Abertawe yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig sy’n codi yn dilyn eich defnydd o Fy Newis.

Dim Gwarantiad

Darperir Fy Newis, y Cynnwys, a gwasanaethau cysylltiedig “fel y mae” ac eithrio unrhyw warantau ac amodau o unrhyw fath, naill ai’n ddatganedig neu’n oblygedig, i’r graddau eithaf a ganiateir yn unol â’r gyfraith berthnasol gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) addasrwydd at ddiben penodol a pheidio â thorri hawliau perchnogion neu drydydd parti. Nid yw Cyngor Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am swyddogaethau sydd wedi’u cynnwys ar Fy Newis ac nid yw’n gwarantu y bydd Fy Newis yn gweithredu’n ddi-dor neu’n ddi-wall neu y bydd diffygion yn cael eu cywiro.

Nid yw Cyngor Abertawe yn gwarantu bod Fy Newis yn gydnaws â’ch offer cyfrifiadurol na bod Fy Newis na’i weinydd yn rhydd o wallau. Dylech sicrhau eich bod wedi gosod meddalwedd gwirio feirws gyfoes cyn unrhyw sesiwn rhyngrwyd ac nid yw Cyngor Abertawe yn atebol am unrhyw ddifrod y gallech ei ddioddef o ganlyniad i nodweddion dinistriol o’r fath a allai heintio’ch cyfrifiadur neu’ch data oherwydd eich defnydd o Fy Newis neu lawrlwytho unrhyw Gynnwys ohono.

Ni fydd Cyngor Abertawe yn gyfrifol am Gynnwys a ddarperir gan drydydd partïon. Nid yw Cyngor Abertawe chwaith yn gyfrifol am ddibynadwyedd nac argaeledd parhaus y llinellau ffôn a’r offer rydych chi’n eu defnyddio i gael mynediad at Fy Newis.

Cyfyngiad Atebolrwydd

Rydych chi, trwy hyn, yn ein hindemnio, ac yn parhau i’n hindemnio, yn erbyn unrhyw golledion, niwed, costau, rhwymedigaethau a threuliau (gan gynnwys, heb gyfyngiadau, treuliau cyfreithiol ac unrhyw symiau a dalwyd gennym i drydydd parti wrth setlo hawliad neu anghydfod) a ddyfernir yn ein herbyn neu rydym yn mynd iddynt ac sy’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol oherwydd:

  • rydych wedi torri unrhyw ddarpariaeth o’r telerau ac amodau hyn; neu
  • unrhyw gamddefnydd gennych o’n gwefan neu ein gwasanaethau.

Rydych yn cydnabod bod eich defnydd o Fy Newis, gwasanaethau cysylltiedig, a’r Cynnwys, ar eich risg eich hun. Os ydych chi’n anfodlon â Fy Newis, y Telerau neu unrhyw ran o’r Cynnwys eich unig rwymedi yw rhoi’r gorau i ddefnyddio Fy Newis. Ac eithrio mewn perthynas â thwyll ac anaf personol neu farwolaeth i’r graddau y mae’n deillio o esgeulustod Cyngor Abertawe, ni fydd Cyngor Abertawe yn atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw niwed uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol, canlyniadol neu atodol, enghreifftiol neu elw a gollir, neu unrhyw niwed arall o unrhyw fath p’un a yw’n seiliedig ar gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, hyd yn oed os yw Cyngor Abertawe wedi cael gwybod am y posibilrwydd o hynny. Mae’n bosibl na fydd cyfraith gymwys yn caniatáu cyfyngu neu eithrio atebolrwydd am iawndal canlyniadol neu atodol, ac felly efallai na fydd y cyfyngiad neu’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i chi. Os yw’ch defnydd o ddeunydd yn Fy Newis yn arwain at yr angen i wasanaethu, atgyweirio neu gysylltu offer, meddalwedd neu ddata, chi fydd yn gyfrifol am yr holl gostau.

Ni fydd Cyngor Abertawe, nac unrhyw un o’r darparwyr Ôl-16 yn Abertawe yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw Gynnwys, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw wallau neu hepgoriadau mewn unrhyw Gynnwys, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a achosir o ganlyniad i ddefnyddio unrhyw Gynnwys sy’n cael ei bostio, ei e-bostio, ei drosglwyddo neu ei ddarparu fel arall trwy Fy Newis.

Deddfau a Rheoliadau Lleol

Nid yw Fy Newis ar gyfer unrhyw unigolyn y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig ni ddylech gyrchu gwefan Fy Newis na gwasanaethau cysylltiedig.

Dim ond pobl yn y Deyrnas Unedig sydd i fod i ddefnyddio Fy Newis. Efallai na fydd mynediad y tu allan i’r Deyrnas Unedig i Fy Newis bob amser yn bosibl, gellir ei gyfyngu, ac nid yw wedi’i warantu.

Nid yw Cyngor Abertawe yn honni bod gwefan Fy Newis na’r Cynnwys yn briodol i’w defnyddio nac yn cael eu caniatáu gan ddeddfau lleol ym mhob awdurdodaeth. Mae’r rhai sy’n cyrchu Fy Newis yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain ac yn gyfrifol am gydymffurfio â’r deddfau neu’r rheoliadau lleol perthnasol; dylid ceisio cyngor cyfreithiol os oes amheuaeth.

Llywodraethir y telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiant, gan ddeddfau Cymru a Lloegr fel y’u cymhwysir yng Nghymru.

Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr sy’n eistedd yng Nghymru awdurdodaeth lwyr i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o’r telerau hyn neu mewn cysylltiad â nhw.

Terfynu a Difrifoldeb

Gall Cyngor Abertawe derfynu’r Telerau hyn gyda sail neu hebddi ar unrhyw adeg.

I’r graddau yr ystyrir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau hyn yn ddi-rym neu’n anghyfreithlon, bydd y Telerau hyn yn berthnasol fel pe na bai’r term hwnnw ar waith a bydd y darpariaethau eraill y Telerau hyn yn parhau i fod yn berthnasol.

Newidiadau i Fy Hunlun

Ar unrhyw adeg, gall gwefan Fy Newis gynnwys deunydd nad yw’n gyfredol bellach. Er nad oes gan Gyngor Abertawe unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny, rydych yn derbyn bod gan Gyngor Abertawe a’r darparwyr Ôl-16 sy’n darparu’r Cynnwys yr hawl i newid y cynnwys neu’r manylebau technegol neu unrhyw ran o Fy Newis ar unrhyw adeg, yn ôl disgresiwn llwyr Cyngor Abertawe. Rydych yn derbyn ymhellach y gall y newidiadau hynny olygu na allwch ddefnyddio gwefan Fy Newis na gwasanaethau cysylltiedig.

Hepgoriad

Nid ystyrir unrhyw hepgoriad gan Gyngor Abertawe o unrhyw doriad o unrhyw rwymedigaeth dan y Telerau hyn yn hepgoriad o unrhyw doriad arall, ac nid ystyrir methu rhoi unrhyw rwymedi ar waith, na rhoi unrhyw rwymedi ar waith yn rhannol, yn hepgoriad o’r hawl i roi’r rhwymedi hwnnw neu unrhyw rwymedi arall ar waith wedi hynny.

Polisi Preifatrwydd a’r Cytundeb Prosesu Data

Yn ychwanegol at y Telerau a gynhwysir yma, mae mynediad at Fy Newis yn cynnwys cytundeb â’n Polisi Preifatrwydd a chydymffurfiad ag ef.

Yn ychwanegol at y Telerau a gynhwysir yma, ac i’n Polisi Preifatrwydd, mae’n rhaid bod darparwyr Ôl-16 yn Ninas a Sir Abertawe sy’n defnyddio Fy Newis wedi cytuno a llofnodi Cytundeb Prosesu Data.

Mae pob darparwr Ôl-16 unigol yn gyfrifol am reoli’r cymwysiadau, nosweithiau agored, a’r cyrsiau sydd ar gael ar gyfer eu sefydliad addysgol; Ni ellir dal Cyngor Abertawe yn gyfrifol os yw darparwr Ôl-16 yn methu yn ei ddyletswyddau.

Datganiad Hygyrchedd

Rydym wedi ceisio gwneud Fy Newis yn hygyrch i gynifer o bobl ag sy’n bosibl.

Os oes gennych unrhyw sylwadau am hygyrchedd Fy Newis, helpwch ni i wneud y wefan hyd yn oed yn fwy hygyrch trwy e-bostio’ch awgrymiadau at addysg@abertawe.gov.uk.

Amrywiol

Ni fydd Cyngor Abertawe yn atebol am unrhyw doriad o’r Telerau hyn a achosir gan amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

Ni fydd gan unigolyn nad yw wedi ymrwymo i’r Telerau hyn unrhyw hawliau i orfodi unrhyw un o’r Telerau hyn o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.

Y Gyfraith ac Awdurdodaeth Lywodraethu

Llywodraethir y Telerau hyn gan ddeddfau Cymru a Lloegr fel y’u cymhwysir yng Nghymru ac y mae’r partïon yn ymostwng yn ddi-alw’n ôl i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr yng Nghaerdydd, i ddatrys unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o’r telerau, neu mewn cysylltiad â nhw (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau anghontractiol).