Mae’r sector gweithgynhyrchu a pheirianneg yn bwysig yng Nghymru, ac yn cyfoethogi ein treftadaeth mewn diwydiant trwm. Mae’r sector yn amrywiol ac yn ymwneud â datblygu prosesau, creu nwyddau a chynnyrch. Mae bron 3,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector yn Abertawe, a disgwylir i’r sector dyfu 2% dros y pum mlynedd nesaf.
Nodweddion Allweddol:
- Cyflog da,
- Sector Twf,
- Cyfleoedd datblygu gwych,
- Datrys problemau,
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy.
Sgiliau angenrheidiol:
- Datrys Problemau
- Sgiliau cyfathrebu
- Sgiliau arwain
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da
- Bod yn ddibynadwy
- Sgiliau gwrando da
Y cyflog am swydd yn y sector yw £31,881 ar gyfartaledd, fodd bynnag, gallech ennill mwy neu lai yn ddibynnol ar ba rôl yr ydych yn ei dewis.
Dyma enghreifftiau o rhai o’r swyddi sydd ar gael yn y sector: