Mae’r sector Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu o’n cwmpas ac yn rhan annatod o’n bywydau. Mae gweithgareddau’r sector hwn yn gysylltiedig â rhai o’r amseroedd hapusaf ym mywydau pobl, ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, yn cynnwys teithio’r byd.
Nodweddion Allweddol:
- Amrywiol
- Profiad gwerthfawr
- Hyblyg
- Cyfleoedd i deithio
- Cyfleoedd da i ddatblygu
Sgiliau angenrheidiol:
- Sgiliau cyfathrebu da
- Datrys Problemau
- Sgiliau arwain
- Creadigrwydd a dychymyg
- Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
Y cyflog am swydd yn y sector yn Abertawe yw £14,011, ar gyfartaledd, ac er bod y tâl yn is na rhai sectorau, mae cyfleoedd gwych i ddatblygu ymhellach.
Gweler enghreifftiau isod o’r mathau o swyddi y gallech chi eu gwneud, os yw gyrfa yn y sector yn iawn i chi:
- Prif Gogydd
- Gweinydd a Gweinyddes
- Proffesiwn mewn chwaraeon
- Rheolwr Gwesty
- Cynorthwywyr Gwerthu a Manwerthu