Yn y Coleg hwn, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr amser rydych yn ei dreulio gyda ni yn gyffrous, yn hwyl ac yn fwyaf pwysig, yn darparu’r wybodaeth, cyfleoedd a sgiliau bywyd trosglwyddadwy i chi sy’n eich galluogi i symud ymlaen i lefelau dysgu uwch neu gyflogaeth.
Mae’r Coleg, sy’n cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yn cynnig ystod eang o gyrsiau Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu’n Seiliedig ar Waith a chyrsiau masnachol o lefel Mynediad drwodd i lefel Gradd, mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a galwedigaethol.
Mae’r Coleg yn rhan o bartneriaeth sector deuol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n darparu llwybrau dilyniant dwyieithog ar gyfer y dysgwyr hynny sydd am aros yn lleol i astudio, yn ogystal â gweithio gydag ysgolion lleol i gynnig darpariaeth alwedigaethol yn wythnosol i ddisgyblion 14-16 oed.
Mae Diogelu yn flaenoriaeth i ni ac mae’r gofal, cymorth ac arweiniad a ddarperir gennym i ddysgwyr yn nodwedd neilltuol o’r Coleg cynhwysol hwn. Yn y cyd-destun hwn, caiff yr holl ddysgwyr eu trin yn
gyfartal a disgwylir iddynt fod yn oddefgar ac yn dderbyngar o bobl eraill.
Mae’r Coleg hwn yn frwdfrydig iawn ynghylch dysgu a rhoddir y rheiny sy’n astudio gyda ni yn ganolog i bob peth a wnawn. Rydym yn sicrhau bod ein safonau addysgu a dysgu yn uchel a bod deilliannau myfyrwyr yn gymesur â phrofiad dysgu gwych a phleserus.
Mae hwn yn amser cyffrous i chi, mae ymuno â’r Coleg yn ymrwymiad mawr, ond un sy’n gallu bod yn arbennig o werth chweil nid yn unig oherwydd y cymwysterau byddwch yn eu hennill, ond oherwydd y profiadau byddwch yn eu rhannu gydag eraill dan gyfarwyddyd ein staff ardderchog.
Yn fwyaf oll, nod y Coleg yw ysbrydoli myfyrwyr, cynyddu eu sgiliau, creu ystod o gyfleoedd ar gyfer dysgwyr a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial. Dymunaf y gorau oll i chi ar y daith gyffrous hon ac edrychaf ymlaen at eich cwrdd.
Dr Andrew Cornish, CPhys MInstP, TAR
Prif Weithredwr/Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion