Mae’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddiwydiant allweddol yn Abertawe, sy’n cyflogi bron 20,000 o bobl. Mae’r sector yn cefnogi iechyd a lles pob un ohonom ac yn caniatáu inni weithio a byw. Os ydych chi’n berson sy’n gallu ymdeimlo ac yn awyddus i fod o help i eraill, yna gallai gyrfa yn y sector hon fod yn ddelfrydol i chi.
Mae’r sector o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, o ganlyniad poblogaeth sy’n heneiddio, goblygiadau gofal plant, ffyrdd o fyw sy’n newid, disgwyliadau’r cyhoedd, a thechnoleg newydd sy’n dod i’r amlwg. Mae disgwyl i gyflogaeth y sector dyfu 2.2% dros y pum mlynedd nesaf.
Nodweddion Allweddol:
- Amrywiaeth o swyddi,
- Sector twf,
- Oriau hyblyg,
- Gweithio rhan-amser,
- Datblygiad mewn gyrfa,
- Cyfleoedd i hyfforddi
- Profiad gwerthfawr
Sgiliau angenrheidiol:
- Sgiliau Cymraeg Llafar,
- Sgiliau cyfathrebu da,
- Ysgrifennu adroddiadau,
- Sgiliau arwain,
- Sgiliau gwrando da.
Y cyflog am swydd yn y sector yw £23,984 ar gyfartaledd, ond mae’r hyn y gallwch ennill yn hollol ddibynnol ar eich rôl.
Dyma enghreifftiau o rhai o’r swyddi sydd ar gael yn y sector: