Mae disgwyl i gyflogaeth y sector dyfu 2.2% dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddiwydiant allweddol yn Abertawe, sy’n cyflogi bron 20,000 o bobl. Mae’r sector yn cefnogi iechyd a lles pob un ohonom ac yn caniatáu inni weithio a byw. Os ydych chi’n berson sy’n gallu ymdeimlo ac yn awyddus i  fod o help i eraill, yna gallai gyrfa yn y sector hon fod yn ddelfrydol i chi.

 

Mae’r sector o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, o ganlyniad poblogaeth sy’n heneiddio, goblygiadau gofal plant, ffyrdd o fyw sy’n newid, disgwyliadau’r cyhoedd, a thechnoleg newydd sy’n dod i’r amlwg. Mae disgwyl i gyflogaeth y sector dyfu 2.2% dros y pum mlynedd nesaf.

 

Nodweddion Allweddol:

  • Amrywiaeth o swyddi,
  • Sector twf,
  • Oriau hyblyg,
  • Gweithio rhan-amser,
  • Datblygiad mewn gyrfa,
  • Cyfleoedd i hyfforddi
  • Profiad gwerthfawr

 

Sgiliau angenrheidiol:

 

  • Sgiliau Cymraeg Llafar,
  • Sgiliau cyfathrebu da,
  • Ysgrifennu adroddiadau,
  • Sgiliau arwain,
  • Sgiliau gwrando da.

 

Y cyflog am swydd yn y sector yw £23,984 ar gyfartaledd, ond mae’r hyn y gallwch ennill yn hollol ddibynnol ar eich rôl.

 

Dyma enghreifftiau o rhai o’r swyddi sydd ar gael yn y sector: