Gall Grŵp Colegau NPTC addo profiad dysgu rhagorol i chi o fewn coleg deinamig, cefnogol gyda chyfleusterau ac adnoddau safon diwydiant gwych.
Rydyn ni’n gwybod bod y dewis o aros ymlaen yn y chweched dosbarth neu fynd i’r coleg yn un anodd, ond wrth i ni barhau i fynd o nerth i nerth, ni fu erioed amser gwell i ymuno â ni. Nid yn unig y mae gennym ganlyniadau rhagorol ond rydym bellach yn darparu un o’r ystod ehangaf o ddewisiadau pwnc ar gyfer cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol yng Nghymru.